Skip to main content
Dod o hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol

Gwasanaeth beta yw hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cymryd rhan yn y cyfarfod rhagarweiniol

Cynnwys

  1. Ynglŷn â'r cyfarfod rhagarweiniol
  2. Mynychu'r cyfarfod rhagarweiniol
  3. Beth fydd yn digwydd nesaf

Ynglŷn â'r cyfarfod rhagarweiniol

Yn ystod y misoedd ar ôl i'r cyfnod cofrestru gau, bydd yr Awdurdod Archwilio'n cynnal cyfarfod rhagarweiniol.

Sawl wythnos cyn y cyfarfod hwn, bydd llythyr a elwir yn llythyr rheol 6 yn cael ei anfon at bawb a gofrestrodd i leisio'i farn. Mae'r llythyr hwn yn rhoi gwybod i bawb pryd a ble y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal. Bydd hefyd yn cynnwys amserlen ddrafft ar gyfer yr archwiliad o'r cais a sut bydd yr Awdurdod Archwilio yn archwilio'r cais.

Mynychu'r cyfarfod rhagarweiniol

I gymryd rhan yn y cyfarfod rhagarweiniol, mae'n rhaid i chi naill ai:

  • fod wedi cofrestru i leisio'ch barn, a bod â rhif cyfeirnod parti â buddiant
  • bod â hawl statudol i gymryd rhan

Ar ôl i'r cyfnod cofrestru gau, fe'ch gwahoddir i gyfarfod rhagarweiniol. Diben y cyfarfod hwn yw trafod sut bydd y cais yn cael ei archwilio. Gallwch ddewis peidio â mynychu'r cyfarfod hwn a byddwch yn cael gwahoddiad o hyd i gyflwyno rhagor o wybodaeth pan fydd yr archwiliad yn dechrau.

Ni allwch roi eich barn am y datblygiad arfaethedig yn y cyfarfod hwn.

Gallwch sôn am y canlynol:

  • unrhyw beth a allai effeithio ar eich gallu i fynychu gwrandawiadau neu fodloni terfynau amser, er enghraifft digwyddiadau lleol eraill sy'n cael eu cynnal ar yr un pryd neu faterion yn ymwneud â theithio neu batrymau gwaith
  • a oes unrhyw fannau lleol addas i gynnal y gwrandawiadau
  • a oes unrhyw grwpiau o bobl y mae arnynt angen ymagwedd wahanol i allu cymryd rhan yn y broses
  • unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â'r amserlen archwilio ddrafft

Beth fydd yn digwydd nesaf

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio'n cyhoeddi nodiadau'r cyfarfod a recordiad ffrwd fyw yn adran y prosiect ar y wefan hon wythnos ar ôl y cyfarfod rhagarweiniol.

Anfonir llythyr a elwir yn llythyr rheol 8 at bawb a gofrestrodd, yn ogystal ag unrhyw un sydd â hawl statudol. Bydd y llythyr hwn yn cynnwys manylion yr archwiliad, gan gynnwys yr amserlen derfynol gyda'r holl derfynau amser ar gyfer cyflwyno rhagor o wybodaeth.

  1. Step 1 Cymryd rhan yn ystod y cam cyn-ymgeisio

    Y cam cyn-ymgeisio yw cam cyntaf y broses. Dyma pryd mae'n rhaid i'r ymgeisydd ymgynghori â phobl a sefydliadau. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth am sut gallwch gyflwyno'ch sylwadau iddo. Mae'n bwysig cymryd rhan yn ystod y cam hwn oherwydd gallwch ddylanwadu ar y cais cyn i'r ymgeisydd ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.

    1. Cymryd rhan cyn i'r cais gael ei gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio.
  2. Step 2 Cofrestru i leisio'ch barn am brosiect seilwaith cenedlaethol

    I gymryd rhan ar ôl i'r cais gael ei gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio, mae'n rhaid i chi gofrestru i leisio'ch barn yn ystod y cam cyn-archwilio. Dyma'r adeg pan fyddwn yn paratoi ar gyfer archwiliad. Byddwn yn amlygu arolygydd neu banel o arolygwyr a elwir yn Awdurdod Archwilio ac yn llunio cynllun ar gyfer y cam archwilio. Bydd y cyfnod cofrestru ar agor am 30 niwrnod o leiaf. Bydd y cam cyn-archwilio'n cymryd tua 3 mis.

    1. Sut i gofrestru i leisio'ch barn am brosiect seilwaith cenedlaethol.
  3. Step 3 Cymryd rhan yn y cyfarfod rhagarweiniol

    Yn ystod y misoedd ar ôl i'r cyfnod cofrestru gau, bydd yr Awdurdod Archwilio'n cynnal cyfarfod rhagarweiniol. Diben y cyfarfod hwn yw trafod y prif faterion y bydd yr Awdurdod Archwilio'n eu harchwilio, a'r amserlen ar gyfer y cam archwilio.

    1. Yr hyn y gallwch ei wneud yn y cyfarfod rhagarweiniol.
  4. Step 4 Lleisio'ch barn yn ystod yr archwiliad o'r cais

    Yn ystod y cam hwn, mae'r Awdurdod Archwilio'n gofyn cwestiynau am y datblygiad arfaethedig. Gall yr ymgeisydd ac unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn wneud sylwadau erbyn y terfynau amser yn amserlen yr archwiliad. Gall unrhyw un fynychu gwrandawiadau a allai gael eu cynnal yn ystod y cam hwn. Gall yr archwiliad gymryd hyd at 6 mis.

    1. Cyflwyno sylwadau yn ystod y cam archwilio.
  5. Step 5 Yr hyn y gallwch ei wneud ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud

    Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol wedi gwneud penderfyniad, mae cyfnod 6 wythnos pryd y gall pobl herio'r penderfyniad yn yr Uchel Lys. Gelwir hyn yn adolygiad barnwrol.

    1. Beth fydd yn digwydd ar ôl i benderfyniad gael ei wneud?