Skip to main content
Dod o hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol

Gwasanaeth beta yw hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Yr hyn y gallwch ei wneud ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud

Cynnwys

  1. Ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud

Ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud

Ar ôl i'r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol wneud ei benderfyniad, mae cyfnod o 6 wythnos pryd y gall pobl herio'r penderfyniad yn yr Uchel Lys. Yr enw ar hyn yw adolygiad barnwrol.

Gallwch gael gwybod mwy am y broses adolygiad barnwrol a sut mae'n gweithio (sy'n agor mewn tab newydd).

  1. Step 1 Cymryd rhan yn ystod y cam cyn-ymgeisio

    Y cam cyn-ymgeisio yw cam cyntaf y broses. Dyma pryd mae'n rhaid i'r ymgeisydd ymgynghori â phobl a sefydliadau. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth am sut gallwch gyflwyno'ch sylwadau iddo. Mae'n bwysig cymryd rhan yn ystod y cam hwn oherwydd gallwch ddylanwadu ar y cais cyn i'r ymgeisydd ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.

    1. Cymryd rhan cyn i'r cais gael ei gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio.
  2. Step 2 Cofrestru i leisio'ch barn am brosiect seilwaith cenedlaethol

    I gymryd rhan ar ôl i'r cais gael ei gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio, mae'n rhaid i chi gofrestru i leisio'ch barn yn ystod y cam cyn-archwilio. Dyma'r adeg pan fyddwn yn paratoi ar gyfer archwiliad. Byddwn yn amlygu arolygydd neu banel o arolygwyr a elwir yn Awdurdod Archwilio ac yn llunio cynllun ar gyfer y cam archwilio. Bydd y cyfnod cofrestru ar agor am 30 niwrnod o leiaf. Bydd y cam cyn-archwilio'n cymryd tua 3 mis.

    1. Sut i gofrestru i leisio'ch barn am brosiect seilwaith cenedlaethol.
  3. Step 3 Cymryd rhan yn y cyfarfod rhagarweiniol

    Yn ystod y misoedd ar ôl i'r cyfnod cofrestru gau, bydd yr Awdurdod Archwilio'n cynnal cyfarfod rhagarweiniol. Diben y cyfarfod hwn yw trafod y prif faterion y bydd yr Awdurdod Archwilio'n eu harchwilio, a'r amserlen ar gyfer y cam archwilio.

    1. Yr hyn y gallwch ei wneud yn y cyfarfod rhagarweiniol.
  4. Step 4 Lleisio'ch barn yn ystod yr archwiliad o'r cais

    Yn ystod y cam hwn, mae'r Awdurdod Archwilio'n gofyn cwestiynau am y datblygiad arfaethedig. Gall yr ymgeisydd ac unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn wneud sylwadau erbyn y terfynau amser yn amserlen yr archwiliad. Gall unrhyw un fynychu gwrandawiadau a allai gael eu cynnal yn ystod y cam hwn. Gall yr archwiliad gymryd hyd at 6 mis.

    1. Cyflwyno sylwadau yn ystod y cam archwilio.
  5. Step 5 Yr hyn y gallwch ei wneud ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud

    Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol wedi gwneud penderfyniad, mae cyfnod 6 wythnos pryd y gall pobl herio'r penderfyniad yn yr Uchel Lys. Gelwir hyn yn adolygiad barnwrol.

    1. Beth fydd yn digwydd ar ôl i benderfyniad gael ei wneud?