Penderfyniad
Cynnwys
Ynglŷn â'r cam penderfynu
Yna, bydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol 3 mis arall i wneud y penderfyniad. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn ystyried adroddiad yr Awdurdod Archwilio i benderfynu a ddylai'r datblygiad fynd ymlaen. Pan wneir penderfyniad, byddwn yn cyhoeddi'r penderfyniad a'r adroddiad ar dudalen trosolwg y prosiect perthnasol.
-
Step 1 : Cyn-ymgeisio
Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn dechrau creu ei gais. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd ymgynghori â phobl a sefydliadau yn yr ardal. Mae'n rhaid iddo hefyd greu dogfennau manwl ynglŷn â'r effaith y gallai'r prosiect ei chael ar yr amgylchedd.
Mae'n bwysig cymryd rhan yn ystod y cam hwn er mwyn dylanwadu ar y cais cyn i'r ymgeisydd ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.
-
Step 2 : Derbyn
Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn anfon ei ddogfennau cais atom. Byddwn yn gwirio a allwn dderbyn y cais i'w archwilio. Mae gennym 28 niwrnod i wneud y penderfyniad hwn.
-
Step 3 : Cyn-archwilio
Penodir Awdurdod Archwilio sy'n cynnwys un neu fwy o arolygwyr. Mae'n rhaid i unrhyw un sydd eisiau lleisio'i farn allu cofrestru yn ystod y cam hwn.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd gyhoeddi bod y cais wedi cael ei dderbyn gennym. Bydd yn cynnwys pryd a sut y gall partïon gofrestru i gymryd rhan. Mae'r cyfnod ar gyfer cofrestru'n cael ei osod gan yr ymgeisydd, ond mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na 28 niwrnod.
Mae'r cam cyn-archwilio'n cymryd oddeutu 3 mis fel arfer.
-
Step 4 : Archwiliad
Bydd yr Awdurdod Archwilio'n gofyn cwestiynau am y datblygiad arfaethedig. Gall yr ymgeisydd ac unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn gymryd rhan a chyflwyno sylwadau erbyn pob terfyn amser yn yr amserlen. Gallwch hefyd fynychu gwrandawiadau a allai gael eu cynnal. Mae'r cam hwn yn cymryd hyd at 6 mis.
-
Step 5 : Argymhelliad
Mae'r Awdurdod Archwilio'n ysgrifennu ei adroddiad argymhelliad. Mae'n rhaid i hwn gael ei gwblhau a'i anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol o fewn 3 mis o ddiwedd y cam archwilio.
-
Step 6 : Penderfyniad
Y cam penderfynu yw'r adeg pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn adolygu'r adroddiad ac yn gwneud y penderfyniad terfynol. Mae ganddo 3 mis i wneud penderfyniad.
-
Step 7 : Beth sy'n digwydd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud
Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud penderfyniad, gellir cyflwyno heriau i'r Uchel Lys. Mae'n rhaid dilyn yr holl weithdrefnau wrth gyflwyno her. Bydd yr Uchel Lys yn penderfynu a oes sail ar gyfer adolygiad barnwrol.
Mae'n rhaid i hyn ddigwydd o fewn 6 wythnos.