Archwiliad
Cynnwys
- Ynglŷn â'r cam archwilio
- Beth fydd yn digwydd yn ystod y cam archwilio
- Pan fyddwch wedi cofrestru i leisio'ch barn, fe allwch
- Os ydych wedi methu'r dyddiad cau i gofrestru
- Os ydych wedi ennill buddiant yn ddiweddar mewn tir y mae datblygiad yn effeithio arno
- Rhagor o wybodaeth
Ynglŷn â'r cam archwilio
Y cam archwilio yw lle mae'r Awdurdod Archwilio yn edrych ar y prosiect arfaethedig ac yn gofyn cwestiynau.
Gall yr ymgeisydd, unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn, cyrff swyddogol a phobl yr effeithir ar eu tir yn uniongyrchol wneud sylwadau ar y datblygiad arfaethedig neu ateb unrhyw un o'r cwestiynau erbyn pob terfyn amser.
Gwneir hyn yn ysgrifenedig fel arfer. Bydd yr Awdurdod Archwilio'n cyhoeddi ei gwestiynau ar yr adegau a nodir yn amserlen yr archwiliad. Gallai'r archwiliad gynnwys gwrandawiadau hefyd os oes materion y mae angen eu trafod yn fanwl.
Mae'r cam hwn yn cymryd hyd at 6 mis.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y cam archwilio
Y cam archwilio yw'r adeg pan fydd yr Awdurdod Archwilio'n ystyried y datblygiad arfaethedig ac yn gofyn cwestiynau.
Gallwch anfon eich sylwadau trwy lenwi'r ffurflen ar-lein yn adran y prosiect ar y wefan hon.
Gall unrhyw un sy'n cael trafferth defnyddio gwasanaethau ar-lein anfon gwybodaeth atom drwy e-bost neu'r post. Mae'r wybodaeth am y prosiect yn adran y prosiect ar y wefan hon yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer tîm achos y prosiect.
Pan fyddwch wedi cofrestru i leisio'ch barn, fe allwch:
- wneud sylwadau ar y datblygiad arfaethedig
- siarad mewn gwrandawiadau
- mynychu archwiliad safle gyda chwmni
Bydd angen i chi gofrestru i leisio'ch barn er mwyn i'ch sylwadau gael eu hystyried.
Rhoddir rhif cyfeirnod i chi pan fyddwch yn cofrestru. Mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r rhif hwn wrth gyflwyno sylwadau.
I gael gwybod mwy, darllenwch ein canllaw ar leisio'ch barn ynglŷn â phrosiect seilwaith cenedlaethol.
Os ydych wedi methu'r dyddiad cau i gofrestru
Gallwch edrych ar y wybodaeth am y prosiect ond ni allwch gyflwyno sylw.
Os ydych wedi ennill buddiant yn ddiweddar mewn tir y mae datblygiad yn effeithio arno
Gallwch gysylltu â thîm y prosiect os nad oedd y datblygwr wedi dweud wrthych fod y cais wedi cael ei dderbyn neu os nad oeddech wedi cofrestru i leisio'ch barn. Bydd tîm y prosiect yn gofyn i'r Awdurdod Archwilio a allwch fod yn Barti â Buddiant a lleisio'ch barn.
Mae cyfeiriad e-bost tîm y prosiect ar gael yn yr adran cysylltu â ni ar dudalen y prosiect.
Rhagor o wybodaeth
Bydd yr holl fanylion am y prosiect, gan gynnwys dogfennau, cwestiynau, sylwadau ac unrhyw gyngor a roddwyd, yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect.
Gallwch hefyd ddarllen y gyfres lawn o tudalennau cyngor technegol.