Cyn-ymgeisio
Cynnwys
- Y cam cyn-ymgeisio
- Ynglŷn â'r gwasanaeth cyn-ymgeisio ar gyfer ymgeiswyr
- Cyngor i awdurdodau lleol yn ystod y cam cyn-ymgeisio
- Cyngor manylach
Y cam cyn-ymgeisio
Cyn i ymgeisydd anfon ei gais ar gyfer datblygiad arfaethedig at yr Arolygiaeth Gynllunio, mae'n rhaid iddo gynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Yna, bydd yr adborth hwn yn cael ei ystyried a'i ddefnyddio i helpu i ffurfio'r prosiect arfaethedig. Mae hyn yn digwydd yn ystod y cam cyn-ymgeisio.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ymgynghori â'r canlynol:
- y cyhoedd
- cynghorau plwyf
- ymgyngoreion statudol
- awdurdodau lleol a chynghorau
- tirfeddianwyr a thenantiaid
Mae'n rhaid iddo ystyried yr holl sylwadau a gwybodaeth gan aelodau o'r cyhoedd a sefydliadau.
Mae'n bwysig iawn cymryd rhan yn ymgynghoriad yr ymgeisydd yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Dyma'ch cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a mynegi unrhyw bryderon, a chael gwybod mwy am y datblygiad a sut gallai effeithio ar yr ardal.
Gwiriwch y canllaw ar sut gallwch leisio'ch barn.
Ynglŷn â'r gwasanaeth cyn-ymgeisio ar gyfer ymgeiswyr
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyn-ymgeisio i ymgeiswyr sy'n paratoi cais. Mae hwn yn wasanaeth sy'n seiliedig ar ffi. Edrychwch ar ein prosbectws cyn ymgeisio i gael rhagor o wybodaeth am y strwythur ffioedd.
Mae'n cynnwys:
- rhoi cyngor ar sut i baratoi cais
- gwiriadau cyn-cyflwyno ac adolygu dogfennau drafft
- gwirio bod ymgeiswyr wedi dilyn yr holl gamau sy'n ofynnol
Cyngor i awdurdodau lleol yn ystod y cam cyn-ymgeisio
Gallwch ddarllen ein tudalennau cyngor sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wneud os ydych yn cynrychioli awdurdod lleol.
Cyngor manylach
Os oes arnoch angen cyngor manylach, gallwch gyfeirio at ein tudalennau cyngor i gael rhagor o wybodaeth.