Skip to main content
Dod o hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol

Gwasanaeth beta yw hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Argymhelliad

Cynnwys

  1. Ynglŷn â'r cam argymhelliad

Ynglŷn â'r cam argymhelliad

Ar ôl i'r Awdurdod Archwilio gwblhau ei holl ymholiadau a deall safbwyntiau pawb yn ystod yr archwiliad, bydd yn ysgrifennu ei adroddiad argymhelliad. Mae'n rhaid i'r adroddiad gael ei gwblhau a'i anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol o fewn 3 mis o ddiwedd yr archwiliad.

  1. Step 1 Cyn-ymgeisio

    Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn dechrau creu ei gais. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd ymgynghori â phobl a sefydliadau yn yr ardal. Mae'n rhaid iddo hefyd greu dogfennau manwl ynglŷn â'r effaith y gallai'r prosiect ei chael ar yr amgylchedd.

    Mae'n bwysig cymryd rhan yn ystod y cam hwn er mwyn dylanwadu ar y cais cyn i'r ymgeisydd ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.

    1. Dysgwch beth allwch chi ei wneud yn ystod y cam hwn a gwiriwch ein canllawiau manwl.
  2. Step 2 Derbyn

    Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn anfon ei ddogfennau cais atom. Byddwn yn gwirio a allwn dderbyn y cais i'w archwilio. Mae gennym 28 niwrnod i wneud y penderfyniad hwn.

    1. Sut mae'r cam derbyn yn gweithio a beth fydd yn digwydd nesaf.
  3. Step 3 Cyn-archwilio

    Penodir Awdurdod Archwilio sy'n cynnwys un neu fwy o arolygwyr. Mae'n rhaid i unrhyw un sydd eisiau lleisio'i farn allu cofrestru yn ystod y cam hwn.

    Mae'n rhaid i'r ymgeisydd gyhoeddi bod y cais wedi cael ei dderbyn gennym. Bydd yn cynnwys pryd a sut y gall partïon gofrestru i gymryd rhan. Mae'r cyfnod ar gyfer cofrestru'n cael ei osod gan yr ymgeisydd, ond mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na 28 niwrnod.

    Mae'r cam cyn-archwilio'n cymryd oddeutu 3 mis fel arfer.

    1. Beth sy'n digwydd yn ystod y cam cyn-archwilio.
  4. Step 4 Archwiliad

    Bydd yr Awdurdod Archwilio'n gofyn cwestiynau am y datblygiad arfaethedig. Gall yr ymgeisydd ac unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn gymryd rhan a chyflwyno sylwadau erbyn pob terfyn amser yn yr amserlen. Gallwch hefyd fynychu gwrandawiadau a allai gael eu cynnal. Mae'r cam hwn yn cymryd hyd at 6 mis.

    1. Beth sy'n digwydd yn ystod y cam archwilio?
  5. Step 5 Argymhelliad

    Mae'r Awdurdod Archwilio'n ysgrifennu ei adroddiad argymhelliad. Mae'n rhaid i hwn gael ei gwblhau a'i anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol o fewn 3 mis o ddiwedd y cam archwilio.

    1. Gwneud argymhelliad.
  6. Step 6 Penderfyniad

    Y cam penderfynu yw'r adeg pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn adolygu'r adroddiad ac yn gwneud y penderfyniad terfynol. Mae ganddo 3 mis i wneud penderfyniad.

    1. Pwy sy'n gwneud y penderfyniad terfynol.
  7. Step 7 Beth sy'n digwydd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud

    Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud penderfyniad, gellir cyflwyno heriau i'r Uchel Lys. Mae'n rhaid dilyn yr holl weithdrefnau wrth gyflwyno her. Bydd yr Uchel Lys yn penderfynu a oes sail ar gyfer adolygiad barnwrol.

    Mae'n rhaid i hyn ddigwydd o fewn 6 wythnos.

    1. Yr hyn y gallwch ei wneud ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.