Derbyn
Cynnwys
Y cam derbyn
Mae'r ymgeisydd yn anfon ei gais atom yn ystod y cam hwn. Mae'n rhaid i'r cais gynnwys yr holl ddogfennau sy'n ofynnol, fel yr amlinellir mewn deddfwriaeth, yn ogystal â manylion yr ymgynghoriad y mae'r ymgeisydd wedi'i gynnal yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Rydym yn edrych ar y dogfennau i wirio a allwn dderbyn y cais i'w archwilio. Mae gennym 28 niwrnod i wneud y penderfyniad hwn.
Mae un o 3 chanlyniad yn bosibl yn ystod y cam hwn:
- rydym yn derbyn y cais i'w archwilio
- nid ydym yn derbyn y cais
- mae'r ymgeisydd yn tynnu ei gais yn ôl
Os derbynnir y cais, bydd yn symud ymlaen i'r cam cyn-archwilio.
Yr hyn rydym yn ei ystyried yn ystod y cam derbyn
Byddwn yn gwirio'r cais i wneud yn siŵr bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno'r holl ddogfennau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith a bod y dogfennau hynny o safon foddhaol i archwilio'r cais.
Os oes unrhyw beth ar goll neu os oes arnom angen mwy o wybodaeth, efallai na fyddwn yn gallu derbyn y cais i'w archwilio.