Y broses ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau)
Mae Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn cael eu cyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio. Ni yw asiantaeth y llywodraeth sy'n archwilio'r cynnig.
Gall unrhyw un gymryd rhan, gan gynnwys:
- ymgeiswyr
- y cyhoedd
- cyrff statudol
- elusennau
- awdurdodau lleol
Bydd ymgeisydd yn cyflwyno cais ar gyfer gorchymyn caniatâd datblygu i'r Arolygiaeth Gynllunio. Gall y rhain fod yn ddatblygiadau fel:
- ffermydd gwynt alltraeth
- gorsafoedd pŵer a llinellau trydan
- traffyrdd a phrif ffyrdd eraill
- rheilffyrdd
- piblinellau nwy
Rydym yn penodi arolygwyr annibynnol i archwilio ceisiadau a gwneud argymhellion i'r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol ynglŷn â ph'un a ddylid rhoi caniatâd ar gyfer datblygiad.
Yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol sy'n gwneud y penderfyniad terfynol.
Mae'r broses ar gyfer ystyried p'un a ddylid rhoi caniatâd ar gyfer prosiect seilwaith cenedlaethol yn cynnwys sawl cam. Gall y broses gyfan gymryd tua 18 mis.
Canllaw i bobl neu sefydliadau sydd eisiau lleisio'u barn
Gall aelodau'r cyhoedd gymryd rhan mewn ymgynghoriadau cynnar cyn i gais gael ei gyflwyno trwy gysylltu â'r ymgeisydd yn uniongyrchol.
Fel arall, gallwch gofrestru i leisio'ch barn ar y wefan hon yn ystod y cam cyn-archwilio.
Mae canllaw ar gael sy'n cynnwys gwybodaeth i bobl neu sefydliadau sydd eisiau lleisio'u barn am brosiect seilwaith cenedlaethol.