Lleisio'ch barn yn ystod yr archwiliad o'r cais
Cynnwys
- Yr hyn y mae archwiliad yn ei olygu
- Sut i wneud sylwadau yn ystod archwiliad
- Os ydych wedi methu'r dyddiad cau i gofrestru i leisio'ch barn
- Cyngor manylach
Yr hyn y mae archwiliad yn ei olygu
Y cam archwilio yw pan fydd yr Awdurdod Archwilio'n edrych ar y prosiect arfaethedig ac yn gofyn cwestiynau.
Gall yr ymgeisydd, unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn, ac unrhyw un arall sy'n ymwneud â'r prosiect wneud sylwadau ar y datblygiad arfaethedig neu ateb unrhyw un o'r cwestiynau erbyn pob terfyn amser.
Gwneir hyn yn ysgrifenedig fel arfer. Bydd yr Awdurdod Archwilio'n creu ac yn cyhoeddi dogfen sy'n cynnwys ei gwestiynau. Gallai'r archwiliad gynnwys gwrandawiadau hefyd os oes materion y mae angen eu trafod yn fanylach.
Bydd yr Awdurdod Archwilio'n anfon amserlen atoch sy'n cynnwys dyddiadau pob terfyn amser ar gyfer anfon eich sylwadau. Bydd yr holl sylwadau'n cael eu cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan hon ar ôl iddynt gael eu derbyn.
Sut i wneud sylwadau yn ystod archwiliad
Bydd holl ddogfennau'r prosiect, yr holl sylwadau gan bobl eraill sydd wedi cofrestru neu sydd â hawl statudol, a holl gwestiynau'r archwiliad yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan hon.
Gallwch weld y dogfennau hyn a gwneud sylwadau trwy lenwi'r ffurflen ar-lein ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan hon.
Os ydych yn cael trafferth defnyddio gwasanaethau ar-lein, gallwch anfon gwybodaeth atom drwy e-bost neu'r post hefyd. Gallwch wirio'r wybodaeth am y prosiect yn adran y prosiect ar y wefan hon i ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer tîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio.
Bydd eich enw a'ch sylwadau'n cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r dogfennau eraill yn adran y prosiect ar y wefan hon. Bydd eich cyfeiriad post, eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn yn cael eu cadw'n breifat. Gallwch ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth (sy'n agor mewn tab newydd).
Os ydych wedi methu'r dyddiad cau i gofrestru i leisio'ch barn
Gallwch edrych ar y wybodaeth am y prosiect o hyd. Os byddwch yn cyflwyno gwybodaeth yn ystod y cam hwn, nid oes sicrwydd y bydd eich safbwyntiau'n cael eu cynnwys yn yr archwiliad o'r cais. Bydd yr Awdurdod Archwilio'n penderfynu p'un a ellir ystyried eich safbwyntiau.
Cyngor manylach
Os oes arnoch angen cyngor manylach, gallwch gyfeirio at ein tudalennau cyngor i gael rhagor o wybodaeth.
Darllenwch y gyfres lawn o tudalennau cyngor (sy'n agor mewn tab newydd).