Lleisio'ch barn am brosiect seilwaith cenedlaethol
Mae'r canllaw hwn ar gyfer unigolion a sefydliadau sydd eisiau lleisio'u barn am brosiect.
Mae prosiectau seilwaith cenedlaethol yn cael eu galw'n Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) hefyd. Datblygiadau ar raddfa fawr yw'r rhain fel:
- ffermydd gwynt alltraeth
- gorsafoedd pŵer a llinellau trydan
- traffyrdd a phrif ffyrdd eraill
- rheilffyrdd
- piblinellau nwy
Y broses ar gyfer prosiectau seilwaith cenedlaethol yw penderfynu a ellir rhoi Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO). Dogfen gyfreithiol yw DCO sy'n caniatáu i ymgeisydd adeiladu ei brosiect arfaethedig. Mae'r ymgeisydd yn cyflwyno cais ar gyfer datblygiad arfaethedig i'r Arolygiaeth Gynllunio. Mae panel o arolygwyr annibynnol a elwir yn Awdurdod Archwilio yn edrych ar y prosiect ac yn dechrau archwilio'r cais. Maen nhw'n gwneud argymhelliad i'r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol ynglŷn â ph'un a ddylai'r prosiect fynd ymlaen.
Yn rhan o'r broses hon, gall unrhyw un leisio'i farn am y prosiect a dweud wrthym pam maen nhw'n credu y dylai fynd ymlaen neu beidio.