Skip to main content
Dod o hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol

Gwasanaeth beta yw hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

North Falls Offshore Wind Farm Cofrestru i leisio'ch barn am brosiect seilwaith cenedlaethol

Rydych yn cofrestru i leisio'ch barn ynghylch North Falls Offshore Wind Farm

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i leisio'ch barn am brosiect seilwaith cenedlaethol. Mae arnom angen eich manylion personol a'ch sylwadau ynghylch North Falls Offshore Wind Farm.

Ysgrifennu'ch sylwadau

Mae'n rhaid i chi gynnwys sylwadau gyda'ch cofrestriad. Mae'n rhaid i'ch sylwadau ymwneud â'r prif faterion ac effeithiau, yn eich barn chi. Dylech gynnwys cymaint o fanylion â phosibl a sôn am unrhyw beth a allai effeithio ar eich bywyd beunyddiol.

Bydd y wybodaeth hon:

  • yn cael ei gweld gan yr awdurdod archwilio
  • yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan

Gallwch gyflwyno mwy o sylwadau yn ystod yr archwiliad o'r cais pan fyddwch wedi cofrestru.

Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch cofrestriad cyn 23:59 ar 18 Hydref 2024.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn cofrestru'ch hun fel unigolyn

Bydd arnoch angen:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad
  • eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn
  • eich sylwadau cofrestru ynglŷn â'r prosiect

Os ydych yn cofrestru ar ran sefydliad rydych yn gweithio neu'n gwirfoddoli iddo

Bydd arnoch angen:

  • eich enw llawn
  • enw'r elusen neu'r sefydliad rydych yn gweithio iddi/iddo
  • eich cyfeiriad gwaith
  • cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • sylwadau cofrestru ynglŷn â'r prosiect

Os ydych yn cofrestru ar ran unigolyn neu sefydliad arall

Bydd arnoch angen:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad
  • eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn
  • manylion yr unigolyn, yr aelwyd neu'r sefydliad rydych yn ei gynrychioli
  • ei sylwadau cofrestru ynglŷn â'r prosiect