Gwybodaeth am y prosiect
Ynglŷn â'r prosiect
Y math o gais: Gorsafoedd Cynhyrchu
Enw'r ymgeisydd: North Falls Offshore Wind Farm Ltd
An offshore electricity generating station approximately 24.5km from its nearest point at the Port of Lowestoft. It is estimated to have an installed capacity in excess of 100MW and will principally comprise offshore wind turbines together with associated infrastructure (onshore and offshore) including a connection to the electricity transmission network.
Gweld gwefan y datblygwrCam y prosiect
Mae'r prosiect hwn ar y cam cyn-archwilio.
Bydd y cyfarfod rhagarweiniol ar gyfer y prosiect hwn yn cael ei gynnal ar: 28 Ionawr 2025
Gallwch ddarllen y llythyr rheol 6 i gael gwybod sut i gymryd rhan.
Yn y cyfarfod hwn, bydd yr Awdurdod Archwilio'n esbonio sut bydd yn archwilio'r cais. Bydd hyn yn cynnwys amserlen yr archwiliad a'r materion y bydd yn canolbwyntio arnynt yn ystod yr archwiliad.
Dysgwch fwy am gymryd rhan yn y cyfarfod rhagarweiniol
Efallai eich bod wedi ennill buddiant yn ddiweddar mewn tir y mae datblygiad yn effeithio arno. Os nad oedd y datblygwr wedi dweud wrthych fod y cais wedi cael ei dderbyn neu os na wnaethoch gofrestru i leisio'ch barn, gallwch ofyn am gael bod yn barti â buddiant o hyd.
Mae angen i chi gysylltu â thîm y prosiect a fydd yn gofyn i'r Awdurdod Archwilio a allwch fod yn barti â buddiant a lleisio'ch barn.
Anfonwch neges e-bost at NorthFalls@planninginspectorate.gov.uk i ofyn am gael bod yn barti â buddiant.
Cyn-ymgeisio
Wedi cwblhau
Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn dechrau creu ei gais. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd ymgynghori â phobl a sefydliadau yn yr ardal. Mae'n rhaid iddo hefyd greu dogfennau manwl ynglŷn â'r effaith y gallai'r prosiect ei chael ar yr amgylchedd.
Mae'n bwysig cymryd rhan yn ystod y cam hwn er mwyn dylanwadu ar y cais cyn i'r ymgeisydd ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.
Dysgwch beth allwch chi ei wneud yn ystod y cam hwn a gwiriwch ein canllawiau manwl.
Derbyn
Wedi cwblhau
Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn anfon ei ddogfennau cais atom. Byddwn yn gwirio a allwn dderbyn y cais i'w archwilio. Mae gennym 28 niwrnod i wneud y penderfyniad hwn.
Sut mae'r cam derbyn yn gweithio a beth fydd yn digwydd nesaf.
Cyn-archwilio
Mewn cynnydd
Penodir Awdurdod Archwilio sy'n cynnwys un neu fwy o arolygwyr. Mae'n rhaid i unrhyw un sydd eisiau lleisio'i farn allu cofrestru yn ystod y cam hwn.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd gyhoeddi bod y cais wedi cael ei dderbyn gennym. Bydd yn cynnwys pryd a sut y gall partïon gofrestru i gymryd rhan. Mae'r cyfnod ar gyfer cofrestru'n cael ei osod gan yr ymgeisydd, ond mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na 28 niwrnod.
Mae'r cam cyn-archwilio'n cymryd oddeutu 3 mis fel arfer.
Beth sy'n digwydd yn ystod y cam cyn-archwilio.
Archwiliad
Dim wedi dechrau
Bydd yr Awdurdod Archwilio'n gofyn cwestiynau am y datblygiad arfaethedig. Gall yr ymgeisydd ac unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn gymryd rhan a chyflwyno sylwadau erbyn pob terfyn amser yn yr amserlen. Gallwch hefyd fynychu gwrandawiadau a allai gael eu cynnal. Mae'r cam hwn yn cymryd hyd at 6 mis.
Beth sy'n digwydd yn ystod y cam archwilio?
Argymhelliad
Dim wedi dechrau
Mae'r Awdurdod Archwilio'n ysgrifennu ei adroddiad argymhelliad. Mae'n rhaid i hwn gael ei gwblhau a'i anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol o fewn 3 mis o ddiwedd y cam archwilio.
Gwneud argymhelliad.
Penderfyniad
Dim wedi dechrau
Y cam penderfynu yw'r adeg pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn adolygu'r adroddiad ac yn gwneud y penderfyniad terfynol. Mae ganddo 3 mis i wneud penderfyniad.
Pwy sy'n gwneud y penderfyniad terfynol.
Beth sy'n digwydd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud
Dim wedi dechrau
Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud penderfyniad, gellir cyflwyno heriau i'r Uchel Lys. Mae'n rhaid dilyn yr holl weithdrefnau wrth gyflwyno her. Bydd yr Uchel Lys yn penderfynu a oes sail ar gyfer adolygiad barnwrol.
Mae'n rhaid i hyn ddigwydd o fewn 6 wythnos.
Yr hyn y gallwch ei wneud ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.Lleoliad y prosiect
The southern section of the North Sea, approximately 24.5km from its nearest point to land.
Cael diweddariadau
Rhowch eich cyfeiriad e-bost i gael:
- diweddariadau ar gynnydd y prosiect
- gwybodaeth ynglŷn â sut i leisio'ch barn
- hysbysiadau pan fydd dogfennau allweddol yn cael eu cyhoeddi
Cysylltu â ni
Ffoniwch
Os oes gennych rif parti â buddiant, cadwch ef wrth law pan fyddwch yn ffonio.
Rhif ffôn: 0303 444 5000
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 9yb i 4yp
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.
Anfonwch neges e-bost
NorthFalls@planninginspectorate.gov.uk.
Pan fyddwch yn ysgrifennu neges e-bost, rhowch enw'r prosiect yn y llinell bwnc.
Ceisiwn ymateb o fewn 10 niwrnod gwaith.
Fformatau amgen
Ffoniwch neu anfonwch neges e-bost i ofyn am ddogfennau'r prosiect mewn fformat amgen fel PDF, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille.