Cofrestru i leisio'ch barn am brosiect seilwaith cenedlaethol
Rydych yn cofrestru i leisio'ch barn ynghylch Botley West Solar Farm
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i leisio'ch barn am brosiect seilwaith cenedlaethol. Mae arnom angen eich manylion personol a'ch sylwadau ynghylch Botley West Solar Farm.
Ysgrifennu'ch sylwadau
Mae'n rhaid i chi gynnwys sylwadau gyda'ch cofrestriad. Mae'n rhaid i'ch sylwadau ymwneud â'r prif faterion ac effeithiau, yn eich barn chi. Dylech gynnwys cymaint o fanylion â phosibl a sôn am unrhyw beth a allai effeithio ar eich bywyd beunyddiol.
Bydd y wybodaeth hon:
- yn cael ei gweld gan yr awdurdod archwilio
- yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan
Gallwch gyflwyno mwy o sylwadau yn ystod yr archwiliad o'r cais pan fyddwch wedi cofrestru.
Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch cofrestriad cyn 23:59 ar 27 Chwefror 2025.
Dechrau nawrCyn i chi ddechrau
Os ydych yn cofrestru'ch hun fel unigolyn
Bydd arnoch angen:
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad
- eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn
- eich sylwadau cofrestru ynglŷn â'r prosiect
Os ydych yn cofrestru ar ran sefydliad rydych yn gweithio neu'n gwirfoddoli iddo
Bydd arnoch angen:
- eich enw llawn
- enw'r elusen neu'r sefydliad rydych yn gweithio iddi/iddo
- eich cyfeiriad gwaith
- cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
- sylwadau cofrestru ynglŷn â'r prosiect
Os ydych yn cofrestru ar ran unigolyn neu sefydliad arall
Bydd arnoch angen:
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad
- eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn
- manylion yr unigolyn, yr aelwyd neu'r sefydliad rydych yn ei gynrychioli
- ei sylwadau cofrestru ynglŷn â'r prosiect