Gwybodaeth am y prosiect
Ynglŷn â'r prosiect
Y math o gais: Gorsafoedd Cynhyrchu
Enw'r ymgeisydd: RWE Renewables UK Solar and Storage Limited
The project comprises the construction of a Solar Farm and collated Battery Energy Storage System (BESS) that would allow for the generation, export and storage of electricity exceeding 50 MW. The project include works to facilitate the construction, operation, maintenance and decommissioning of a solar photovoltaic (PV) array electricity generating facility and BESS including PV modules and mounting structures, on-site supporting equipment including inverters, transformers and switchgears, up to three on-site substations and underground cabling to connect to the National Grid substation, associated infrastructure including fencing, drainage and storage containers and biodiversity and landscaping enhancement measures, together with temporary development during the construction phase.
Gweld gwefan y datblygwrCam y prosiect
Mae'r prosiect hwn ar y cam cyn-ymgeisio.
Disgwylir i'r cais gael ei gyflwyno January 2025.
Pan fyddwn yn cael y cais, bydd gennym 28 niwrnod i benderfynu p'un ai ei dderbyn i'w archwilio.
Os derbyniwn y cais, gallwch gofrestru i leisio'ch barn a gweld holl ddogfennau'r cais.
Cyn-ymgeisio
Mewn cynnydd
Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn dechrau creu ei gais. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd ymgynghori â phobl a sefydliadau yn yr ardal. Mae'n rhaid iddo hefyd greu dogfennau manwl ynglŷn â'r effaith y gallai'r prosiect ei chael ar yr amgylchedd.
Mae'n bwysig cymryd rhan yn ystod y cam hwn er mwyn dylanwadu ar y cais cyn i'r ymgeisydd ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.
Dysgwch beth allwch chi ei wneud yn ystod y cam hwn a gwiriwch ein canllawiau manwl.
Derbyn
Dim wedi dechrau
Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn anfon ei ddogfennau cais atom. Byddwn yn gwirio a allwn dderbyn y cais i'w archwilio. Mae gennym 28 niwrnod i wneud y penderfyniad hwn.
Sut mae'r cam derbyn yn gweithio a beth fydd yn digwydd nesaf.
Cyn-archwilio
Dim wedi dechrau
Penodir Awdurdod Archwilio sy'n cynnwys un neu fwy o arolygwyr. Mae'n rhaid i unrhyw un sydd eisiau lleisio'i farn allu cofrestru yn ystod y cam hwn.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd gyhoeddi bod y cais wedi cael ei dderbyn gennym. Bydd yn cynnwys pryd a sut y gall partïon gofrestru i gymryd rhan. Mae'r cyfnod ar gyfer cofrestru'n cael ei osod gan yr ymgeisydd, ond mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na 28 niwrnod.
Mae'r cam cyn-archwilio'n cymryd oddeutu 3 mis fel arfer.
Beth sy'n digwydd yn ystod y cam cyn-archwilio.
Archwiliad
Dim wedi dechrau
Bydd yr Awdurdod Archwilio'n gofyn cwestiynau am y datblygiad arfaethedig. Gall yr ymgeisydd ac unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn gymryd rhan a chyflwyno sylwadau erbyn pob terfyn amser yn yr amserlen. Gallwch hefyd fynychu gwrandawiadau a allai gael eu cynnal. Mae'r cam hwn yn cymryd hyd at 6 mis.
Beth sy'n digwydd yn ystod y cam archwilio?
Argymhelliad
Dim wedi dechrau
Mae'r Awdurdod Archwilio'n ysgrifennu ei adroddiad argymhelliad. Mae'n rhaid i hwn gael ei gwblhau a'i anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol o fewn 3 mis o ddiwedd y cam archwilio.
Gwneud argymhelliad.
Penderfyniad
Dim wedi dechrau
Y cam penderfynu yw'r adeg pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn adolygu'r adroddiad ac yn gwneud y penderfyniad terfynol. Mae ganddo 3 mis i wneud penderfyniad.
Pwy sy'n gwneud y penderfyniad terfynol.
Beth sy'n digwydd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud
Dim wedi dechrau
Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud penderfyniad, gellir cyflwyno heriau i'r Uchel Lys. Mae'n rhaid dilyn yr holl weithdrefnau wrth gyflwyno her. Bydd yr Uchel Lys yn penderfynu a oes sail ar gyfer adolygiad barnwrol.
Mae'n rhaid i hyn ddigwydd o fewn 6 wythnos.
Yr hyn y gallwch ei wneud ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.Lleoliad y prosiect
Land to the east of Beverley, on land either side of the A1035, extending broadly to the A1079 in th
Cael diweddariadau
Rhowch eich cyfeiriad e-bost i gael:
- diweddariadau ar gynnydd y prosiect
- gwybodaeth ynglŷn â sut i leisio'ch barn
- hysbysiadau pan fydd dogfennau allweddol yn cael eu cyhoeddi
Cysylltu â ni
Ffoniwch
Os oes gennych rif parti â buddiant, cadwch ef wrth law pan fyddwch yn ffonio.
Rhif ffôn: 0303 444 5000
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 9yb i 4yp
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.
Anfonwch neges e-bost
PeartreeHillSolarFarm@planninginspectorate.gov.uk.
Pan fyddwch yn ysgrifennu neges e-bost, rhowch enw'r prosiect yn y llinell bwnc.
Ceisiwn ymateb o fewn 10 niwrnod gwaith.
Fformatau amgen
Ffoniwch neu anfonwch neges e-bost i ofyn am ddogfennau'r prosiect mewn fformat amgen fel PDF, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille.