Skip to main content
Dod o hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol

Gwasanaeth beta yw hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rampion 2 Offshore Wind Farm

Gwybodaeth am y prosiect

Diweddariad diweddaraf - 16 Rhagfyr 2024

Ynglŷn â'r prosiect

Y math o gais: Gorsafoedd Cynhyrchu

Enw'r ymgeisydd: Rampion Extension Development Limited

Offshore wind farm with up to 90 wind turbines, associated foundations and all the electrical infrastructure required to transmit the power into the national electricity network at Bolney in Mid Sussex.

Gweld gwefan y datblygwr

Cam y prosiect

Mae'r prosiect hwn ar y cam penderfyniad.

Y dyddiad a bennwyd ar gyfer cwblhau hyn yw 6 Chwefror 2025

Cyn-ymgeisio
Wedi cwblhau

Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn dechrau creu ei gais. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd ymgynghori â phobl a sefydliadau yn yr ardal. Mae'n rhaid iddo hefyd greu dogfennau manwl ynglŷn â'r effaith y gallai'r prosiect ei chael ar yr amgylchedd.

Mae'n bwysig cymryd rhan yn ystod y cam hwn er mwyn dylanwadu ar y cais cyn i'r ymgeisydd ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.

Dysgwch beth allwch chi ei wneud yn ystod y cam hwn a gwiriwch ein canllawiau manwl.

Derbyn
Wedi cwblhau

Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn anfon ei ddogfennau cais atom. Byddwn yn gwirio a allwn dderbyn y cais i'w archwilio. Mae gennym 28 niwrnod i wneud y penderfyniad hwn.

Sut mae'r cam derbyn yn gweithio a beth fydd yn digwydd nesaf.

Cyn-archwilio
Wedi cwblhau

Penodir Awdurdod Archwilio sy'n cynnwys un neu fwy o arolygwyr. Mae'n rhaid i unrhyw un sydd eisiau lleisio'i farn allu cofrestru yn ystod y cam hwn.

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd gyhoeddi bod y cais wedi cael ei dderbyn gennym. Bydd yn cynnwys pryd a sut y gall partïon gofrestru i gymryd rhan. Mae'r cyfnod ar gyfer cofrestru'n cael ei osod gan yr ymgeisydd, ond mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na 28 niwrnod.

Mae'r cam cyn-archwilio'n cymryd oddeutu 3 mis fel arfer.

Beth sy'n digwydd yn ystod y cam cyn-archwilio.

Archwiliad
Wedi cwblhau

Bydd yr Awdurdod Archwilio'n gofyn cwestiynau am y datblygiad arfaethedig. Gall yr ymgeisydd ac unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn gymryd rhan a chyflwyno sylwadau erbyn pob terfyn amser yn yr amserlen. Gallwch hefyd fynychu gwrandawiadau a allai gael eu cynnal. Mae'r cam hwn yn cymryd hyd at 6 mis.

Beth sy'n digwydd yn ystod y cam archwilio?

Argymhelliad
Wedi cwblhau

Mae'r Awdurdod Archwilio'n ysgrifennu ei adroddiad argymhelliad. Mae'n rhaid i hwn gael ei gwblhau a'i anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol o fewn 3 mis o ddiwedd y cam archwilio.

Gwneud argymhelliad.

Penderfyniad
Mewn cynnydd

Y cam penderfynu yw'r adeg pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn adolygu'r adroddiad ac yn gwneud y penderfyniad terfynol. Mae ganddo 3 mis i wneud penderfyniad.

Pwy sy'n gwneud y penderfyniad terfynol.

Beth sy'n digwydd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud
Dim wedi dechrau

Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud penderfyniad, gellir cyflwyno heriau i'r Uchel Lys. Mae'n rhaid dilyn yr holl weithdrefnau wrth gyflwyno her. Bydd yr Uchel Lys yn penderfynu a oes sail ar gyfer adolygiad barnwrol.

Mae'n rhaid i hyn ddigwydd o fewn 6 wythnos.

Yr hyn y gallwch ei wneud ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.

Lleoliad y prosiect

Adjacent to the exisiting Rampion Wind Farm, approximately 13km off the Sussex Coast


Cael diweddariadau

Rhowch eich cyfeiriad e-bost i gael:

  • diweddariadau ar gynnydd y prosiect
  • gwybodaeth ynglŷn â sut i leisio'ch barn
  • hysbysiadau pan fydd dogfennau allweddol yn cael eu cyhoeddi
Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd i gael gwybod sut rydym yn trin eich gwybodaeth.
Cael diweddariadau

Cysylltu â ni

Ffoniwch

Os oes gennych rif parti â buddiant, cadwch ef wrth law pan fyddwch yn ffonio.

Rhif ffôn: 0303 444 5000

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 9yb i 4yp
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Anfonwch neges e-bost

Rampion2@planninginspectorate.gov.uk.

Pan fyddwch yn ysgrifennu neges e-bost, rhowch enw'r prosiect yn y llinell bwnc.

Ceisiwn ymateb o fewn 10 niwrnod gwaith.

Fformatau amgen

Ffoniwch neu anfonwch neges e-bost i ofyn am ddogfennau'r prosiect mewn fformat amgen fel PDF, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille.