Skip to main content
Dod o hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol

Gwasanaeth beta yw hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Helios Renewable Energy Project

Gwybodaeth am y prosiect

Diweddariad diweddaraf - 17 Rhagfyr 2024

All the submissions for Deadline 1 have been published.

The Examining Authority has also exercised its discretion to accept an additional submission from The Coal Authority (PDF, 1MB)

The examination library (PDF, 435KB) has been updated.

Gweld yr holl ddiweddariadau.

Ynglŷn â'r prosiect

Y math o gais: Gorsafoedd Cynhyrchu

Enw'r ymgeisydd: Enso Green Holdings D Limited

The installation of ground mounted solar arrays, energy storage and associated development comprising grid connection infrastructure and other infrastructure integral to the construction, operation, and maintenance of the development for the generation of over 50 megawatts of electricity.

Gweld gwefan y datblygwr

Cam y prosiect

Mae'r prosiect hwn ar y cam archwilio.

Yn ystod y cam archwilio, gall unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn gyflwyno sylwadau erbyn y terfynau amser a nodir yn amserlen yr archwiliad. Cewch fynychu gwrandawiadau hefyd, os cânt eu cynnal.

Gallwch hefyd ddarllen y llythyr rheol 8 i gael gwybod mwy am yr hyn y gallwch ei wneud yn ystod y cam archwilio.

Dysgwch fwy am y cam archwilio'r cais.

Efallai eich bod wedi ennill buddiant yn ddiweddar mewn tir y mae datblygiad yn effeithio arno. Os nad oedd y datblygwr wedi dweud wrthych fod y cais wedi cael ei dderbyn neu os na wnaethoch gofrestru i leisio'ch barn, gallwch ofyn am gael bod yn barti â buddiant o hyd.

Mae angen i chi gysylltu â thîm y prosiect a fydd yn gofyn i'r Awdurdod Archwilio a allwch fod yn barti â buddiant a lleisio'ch barn.

Anfonwch neges e-bost at HeliosRenewableEnergy@planninginspectorate.gov.uk i ofyn am gael bod yn barti â buddiant.

Cyn-ymgeisio
Wedi cwblhau

Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn dechrau creu ei gais. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd ymgynghori â phobl a sefydliadau yn yr ardal. Mae'n rhaid iddo hefyd greu dogfennau manwl ynglŷn â'r effaith y gallai'r prosiect ei chael ar yr amgylchedd.

Mae'n bwysig cymryd rhan yn ystod y cam hwn er mwyn dylanwadu ar y cais cyn i'r ymgeisydd ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.

Dysgwch beth allwch chi ei wneud yn ystod y cam hwn a gwiriwch ein canllawiau manwl.

Derbyn
Wedi cwblhau

Dyma'r adeg pan fydd yr ymgeisydd yn anfon ei ddogfennau cais atom. Byddwn yn gwirio a allwn dderbyn y cais i'w archwilio. Mae gennym 28 niwrnod i wneud y penderfyniad hwn.

Sut mae'r cam derbyn yn gweithio a beth fydd yn digwydd nesaf.

Cyn-archwilio
Wedi cwblhau

Penodir Awdurdod Archwilio sy'n cynnwys un neu fwy o arolygwyr. Mae'n rhaid i unrhyw un sydd eisiau lleisio'i farn allu cofrestru yn ystod y cam hwn.

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd gyhoeddi bod y cais wedi cael ei dderbyn gennym. Bydd yn cynnwys pryd a sut y gall partïon gofrestru i gymryd rhan. Mae'r cyfnod ar gyfer cofrestru'n cael ei osod gan yr ymgeisydd, ond mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na 28 niwrnod.

Mae'r cam cyn-archwilio'n cymryd oddeutu 3 mis fel arfer.

Beth sy'n digwydd yn ystod y cam cyn-archwilio.

Archwiliad
Mewn cynnydd

Bydd yr Awdurdod Archwilio'n gofyn cwestiynau am y datblygiad arfaethedig. Gall yr ymgeisydd ac unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn gymryd rhan a chyflwyno sylwadau erbyn pob terfyn amser yn yr amserlen. Gallwch hefyd fynychu gwrandawiadau a allai gael eu cynnal. Mae'r cam hwn yn cymryd hyd at 6 mis.

Beth sy'n digwydd yn ystod y cam archwilio?

Argymhelliad
Dim wedi dechrau

Mae'r Awdurdod Archwilio'n ysgrifennu ei adroddiad argymhelliad. Mae'n rhaid i hwn gael ei gwblhau a'i anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol o fewn 3 mis o ddiwedd y cam archwilio.

Gwneud argymhelliad.

Penderfyniad
Dim wedi dechrau

Y cam penderfynu yw'r adeg pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn adolygu'r adroddiad ac yn gwneud y penderfyniad terfynol. Mae ganddo 3 mis i wneud penderfyniad.

Pwy sy'n gwneud y penderfyniad terfynol.

Beth sy'n digwydd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud
Dim wedi dechrau

Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud penderfyniad, gellir cyflwyno heriau i'r Uchel Lys. Mae'n rhaid dilyn yr holl weithdrefnau wrth gyflwyno her. Bydd yr Uchel Lys yn penderfynu a oes sail ar gyfer adolygiad barnwrol.

Mae'n rhaid i hyn ddigwydd o fewn 6 wythnos.

Yr hyn y gallwch ei wneud ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.

Lleoliad y prosiect

Land to the south west of the village of Camblesforth and to the north of the village of Hirst Court


Cael diweddariadau

Rhowch eich cyfeiriad e-bost i gael:

  • diweddariadau ar gynnydd y prosiect
  • gwybodaeth ynglŷn â sut i leisio'ch barn
  • hysbysiadau pan fydd dogfennau allweddol yn cael eu cyhoeddi
Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd i gael gwybod sut rydym yn trin eich gwybodaeth.
Cael diweddariadau

Cysylltu â ni

Ffoniwch

Os oes gennych rif parti â buddiant, cadwch ef wrth law pan fyddwch yn ffonio.

Rhif ffôn: 0303 444 5000

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 9yb i 4yp
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Anfonwch neges e-bost

HeliosRenewableEnergy@planninginspectorate.gov.uk.

Pan fyddwch yn ysgrifennu neges e-bost, rhowch enw'r prosiect yn y llinell bwnc.

Ceisiwn ymateb o fewn 10 niwrnod gwaith.

Fformatau amgen

Ffoniwch neu anfonwch neges e-bost i ofyn am ddogfennau'r prosiect mewn fformat amgen fel PDF, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille.